Croeso

Croeso/Welcome to Tonnau'r Môr
Mae Tonnau'r Môr yn Faes Carafanau Teithiol a Thymhorol sy'n croesawu teuluoedd a chyplau; mae'n le arbennig iawn, wedi'i leoli ar arfordir garw, godidog Pen Llŷn yn Sarn Bach, Abersoch. Gallwn gynnig lleiniau caled neu leiniau ar laswellt gyda chysylltiad uniongyrchol i ddŵr, lle i waredu dŵr budur, trydan, lleiniau wedi eu gwasanaethau'n llawn a rhai heb wasanaethau ar gyfer carafanau teithiol, cartrefi modur a faniau campio. Mae gennym ardaloedd hefyd ar gyfer pob mathau o bebyll.

Mae llawer iawn mwy i harddwch Maes Carafanau a Gwersylla Tonnau'r Môr na dim ond y ffordd mae wedi ei ddylunio a'r caeau blodau gwyllt prydferth; mae'n berffaith fel ac y mae o. Mae mewn lleoliad unigryw a phoblogaidd, ac yn ddigon pell o'r priffyrdd, rhwng y 3ydd Tee ar Gwrs Golff Abersoch a Chaffi Mickey's; dim ond 330m o waith cerdded i'r traeth sydd yna o Tonnau'r Môr. Lleoliad perffaith ar gyfer diwrnodau diog ar y traeth neu i gymryd rhan mewn chwaraeon dŵr. Dim mwy o yrru, dim mwy o chwilio am le parcio, a dim gwaith cerdded i fyny'r allt; dim ond pacio'ch bag traeth, ystyn y cwch neu afael yn eich bwrdd syrffio, ac mewn 4 munud, gallwch fod ar y traeth ac yn y dŵr yn mwynhau.

Neu os ydych chi eisiau cinio, siopa, neu eisiau mynd 'allan', gallwch gerdded yn ddiogel mewn 15 munud ar hyd y lôn drwy'r cwrs golff, neu 25 munud ar hyd y traeth, i gyrraedd pentref hyfryd Abersoch. Mae nifer o fwytai, tafarndai, caffis, siopau a busnesau chwaraeon dŵr yn y pentref.

Lleoliad yw popeth. Mae hynny bendant yn wir am Tonnau'r Môr. Cysylltwch efo ni i archebu lle am y tymor neu lain i garafan deithiol. Tonnau'r Môr yw'r lle perffaith i ymlacio.

Gwersylla ar gyfer Teuluoedd a Chyplau

Yn ailagor yn 2026; mae Tonnau'r Môr yn cyfuno  parch at draddodiad a'r ardal leol gyda ffordd newydd o feddwl i greu gwersyll arloesol. Mae gennym floc cyfleusterau newydd wedi'i orchuddio gyda chladin coed, gyda'r cyfleusterau gorau un ac ystafelloedd cawod hygyrch a theuluol, yn cynnig moethusrwydd i'n gwesteion. Mae ein hethos gymunedol a theuluol a hanes cyfoethog, yn sicrhau bod pobl a'n gwreiddiau yn bwysig iawn i ni.

Er bod yr enw wedi newid, mae'r gwerthoedd yr un fath. Adeiladu cymuned sydd wrth wraidd yr hyn yr ydym yn ei gynrychioli yn Tonnau'r Môr  . Creu amgylchedd diogel a chyfeillgar, lle mae'r gwesteiwr  wrth law 7 diwrnod yr wythnos, a lle mae'r rhai sy'n aros yma yn hapus i roi help llaw i gymdogion. Dyma sydd wedi, ac a fydd bob amser, yn gwneud y safle hwn yn lle arbennig iawn.

Mae yna groeso cynnes yma bob amser, lle mae teuluoedd a chyplau'n dod at ei gilydd i ymlacio a myfyrio ar ddigwyddiadau'r dydd, lle mae cenedlaethau o blant yn cael oriau diddiwedd o hwyl, a lle mae atgofion arbennig yn cael eu creu.

Efallai y byddwn yn dod i Tonnau'r Môr fel teulu neu gwpl, ond byddwch chi'n gadael fel rhan o gymuned ehangach Tonnau'r Môr .

Mae Tonnau'r Môr wedi'i leoli ym mhen pellaf Pen Llŷn ac yn agos at sawl traeth anhygoel, teithiau cerdded ac o fewn pellter agos at ddigon o weithgareddau teuluol gan gynnwys hwylio, padlfyrddio, caiacio a physgota, gan ei wneud yn lleoliad perffaith i deuluoedd.

Mae mynediad i'r traeth agosaf at y maes gwersylla drwy'r llwybr rhwng Cwrs Golff Abersoch. Mae'r rhan hon o'r traeth yn ddelfrydol ar gyfer teuluoedd. Mae'n dawel, gyda dyfroedd bas a dim mynediad i gerbydau, gan ei gwneud hi'n fwy diogel i blant chwarae. Mae cŵn yn cael mynd ar y traeth drwy gydol y flwyddyn hefyd.

Ymlacio ac Ailgysylltu

Yn Tonnau'r Môr does dim angen mynd ar ras i bob man; mae yna lawer mwy i fywyd na hynny.

Rydym yn credu bod cymryd amser i 'Ymlacio ac Ailgysylltu' yn helpu i:

Deffro'r meddwl, adfywio'r corff ac yn gwneud lles i'r enaid.

Dyna pam yn Tonnau'r Môr ein bod yn cynnig profiad gwersylla hamddenol mewn lleoliad diarffordd, gyda blodau gwyllt, dolydd, coetir a gwrychoedd o'n cwmpas ym mhob man, a hynny wrth ymyl Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, (SoDdGA), sy'n darparu lleoliad cysgodol naturiol.

Gyda golygfeydd bendigedig o Fae Abersoch, Ynysoedd Tudwal, Ceredigion, a Pharc Cenedlaethol Eryri a'r Wyddfa, gall ein gwesteion ailgysylltu a mwynhau bywyd gwyllt a chynefinoedd unigryw'r safle, a harddwch naturiol cyfagos Pen Llŷn.

P'un ai ydych chi'n ymweld ag Abersoch am y tro cyntaf, yn teithio rownd Pen Llŷn neu'n cyfarfod ffrindiau, ein nod yw gwneud eich amser yn Tonnau'r Môr yn un hapus a hamddenol.