Mae digon o bysgota i'w gael o gwmpas Abersoch a Phenrhyn Llŷn. O bysgota môr mewn cwch neu o'r lan i bysgota pluen mewn afonydd a llynnoedd.
Yn y bae o amgylch Abersoch gallwch bysgota am facrell, draenog y môr, penfras, draenog du, gurnard, gwrachod, a physgod llawer mwy fel y sget a'r tope. Mae digon o leoedd i ddal eich swper ac nid oes dim byd gwell na macrell ffres yn syth o'r môr ac ar y barbeciw.
Hefyd o gwmpas yr ardal mae nifer o leoliadau pysgota cwrs a brithyll gyda thocynnau dydd ar gael. Gofynnwch yn y swyddfa os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am y lleoedd hyn.