Cyfleusterau

Cyfleusterau

Cyfleusterau

Gyda lleoliad perffaith a chyfleusterau perffaith hefyd erbyn hyn; yn Tonnau'r Môr ein nod yw gwneud eich gwyliau yn un cyfforddus.

Mae ein lleiniau tymhorol yn 10m x 6m, gyda lle parcio 3m ar gyfer cerbydau eraill er mwyn cael digon o le i'ch carafán ac adlen, a lle gerbydau a chychod hefyd.

Er eich diogelwch, mae gennym gamera cylch cyfyng ar y maes gwersylla, rheolaeth giât wrth y fynedfa flaen a chloeon cod allwedd ar bob drws cyfleuster.

Bydd staff yn swyddfa'r safle bob dydd ac yma gallwch ddod o hyd i gyfleusterau cymorth cyntaf. Bydd rhif cyswllt y tu allan i oriau gwaith ar gael ar gyfer argyfyngau.

Mae siop ar y safle a fydd ar agor bob dydd, yn stocio amrywiaeth o fwyd hanfodol ac eitemau gwersylla, ac ychydig o ddanteithion hefyd.

Mae WiFi, ar y safle hefyd. Dim mwy o gerdded o gwmpas i ddod o hyd i signal! Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw cysylltiad WiFi, dyna pam rydym wedi gosod WiFi gradd broffesiynol dros y safle i gyd ac mae o am ddim i westeion ei ddefnyddio.

Gyda'n bloc cyfleusterau anhygoel o foethus, bydd cael cawod yn drit go iawn! Mae cynaliadwyedd yn bwysig iawn i ni yn Tonnau'r Môr. Er mwyn cadw ein hôl troed carbon mor isel â phosib, mae'r bloc cyfleusterau'n cael ei bweru gan bwmp gwres ffynhonnell aer sy'n darparu dŵr poeth am ddim i bob gwestai. Mae yna wres o dan y llawr yma hefyd i gadw pawb yn gynnes. Cewch hefyd ddefnyddio sychwyr gwallt am ddim. Mae ganddo ni hefyd 2 ystafell hygyrch i bobl sy'n cael problemau symudedd a theuluoedd gyda cawodydd, toiledau, sinciau a chyfleusterau newid babanod. Gobeithio bydd y profiad o gael cawod mewn gwersyll carafanio yn werth chweil. 

Yn ein hardal gyfleustodau mae popeth sydd ei angen arnoch chi yno hefyd; sinc dwbl ar gyfer golchi llestri, oergell/rhewgell, microdon, tostiwr a thegell, a hyd yn oed haearn a bwrdd smwddio ar gais; mae pob un o'r rhain am ddim i'n gwesteion eu defnyddio, ynghyd â 2 beiriant golchi a 2 sychwr, (gallwch dalu ymlaen llaw am rain).

Ac yn olaf, os byddwch angen rinsio tywod neu fwd oddi arnoch chi'ch hun, eich offer neu hyd yn oed eich ci, mae gennym ni 2 gawod awyr agored yn arbennig ar gyfer hynny.

Safleoedd

Bloc Cyfleusterau

Ardal Gyfleustodau

O gwmpas y safle

Diogelwch

Arall