Llain am y Tymor 

Llain am y Tymor 

Mae cael llain am y tymor yn Tonnau'r Môr yn ffordd berffaith o ddechrau eich gwyliau.

Rydym yn cynnig lleiniau am y tymor gyda gwasanaethau llawn gyda chysylltiad dŵr croyw, gwaredu dŵr gwastraff llwyd a thrydan drwy dalu ymlaen llaw, ar dir caled neu laswellt.

Mae ein lleiniau am y tymor yn 10m x 6m, gyda lle parcio ychwanegol o 3m, fel bod yna ddigon o le ar gyfer eich carafán, cartref modur neu fan gwersylla, ac adlen, a lle i'ch cerbydau a'ch cychod hefyd.

Mae ein tymor yn rhedeg o 1 Mawrth – 31 Hydref gan roi 8 mis llawn i chi.

Gallwch storio eich carafán dros y gaeaf yn lleol am ffi ychwanegol. Gall rheolwyr y safle drefnu bod eich carafán yn cael ei chasglu a'i danfon yn ôl os oes angen. 

  • Lleiniau wedi'u gwasanaethu'n llawn gyda chysylltiad trydan talu ymlaen llaw
  • Lle i un uned, adlen a llefydd parcio i ddau gerbyd, neu un cerbyd a chwch.
  • Dim ond 330m o'r traeth
  • Cawodydd a sychwyr gwallt am ddim
  • Peiriannau golchi a sychwyr dillad talu ymlaen llaw
  • WiFi safonol proffesiynol ledled y safle
  • Gorsaf gwefru cerbydau trydan (talu ymlaen llaw)

Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer lle tymhorol gallwch gysylltu â ni yma.